Psalms 87

Canmol Jerwsalem

Salm gan feibion Cora. Cân.

1Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!
2Mae'r Arglwydd yn caru dinas Seion
fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.
3Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,
O ddinas Duw.

 Saib
4Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i
– Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica
87:4 dwyrain AffricaHebraeg,  Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
hefyd –
dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
5A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:
“Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno!
Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!”
6Bydd yr Arglwydd yn cofrestru'r cenhedloedd:
“Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”

 Saib
7Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani:
“Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”
Copyright information for CYM